Welsh Leeds Guide - Introduction

By Sian Partridge
December 2 2002

Pwy ddarlun sydd gyda chi o Ogledd Lloegr?

Darlun didrugaredd, yr awyr yn ddu, llond baw, ag yn drymedd, a rhes ar ol rhes o dai gefn wrth gefn?

Dyma’r ddarlun o’r bobl hynnu sydd heb mentro i Ogledd Lloegr. Dim fel yna mai rownd ffordd hyn, mae trefi Gogledd Lloegr yn deinamig ag yn llawn egni.

Mae Leeds yn un o’r trefi hyn. Mae’n tyfu’n gyflym, yn llawn lliw ag yn fwyaf pwysig yn llawn bywyd. Mae rhywbeth i bawb yn Leeds. Mae’r siopau yn werth i weld, yn enwedig gan bod Harvey Nichols yn ganol y dre, a’r Victoria Quarter a’i siopau drud yn denu digon o bobol i edrych trwy’r fenestri a breuddwydio prynu. Mae gwaith y cerflunydd Henry Moore i’w weld yn Oriel y Dre, ond os taw mynd allan yw eich peth – ma digon o lefydd i fynd i gadwch chi mas nes oriau bach y bore.

Mae Leeds yn enwog trwy Ewrop am ei chwareon, diolch mewn rhan i Leeds United. Mae Leeds United wedi bod yn llwyddianus ers blynyddoedd, yn enwedig yn y saith degau, ond hefyd yn fwy ddiweddar yn yr UEFA Champions League a’r UEFA Cup. Mae’r llwyddiant hyn wedi gwneud mwy i Leeds fel tre na all unrhyw gwmni marchanta ei gynnig!

Ond – ma na un atyniad, uwch bob atyniad arall diwrnodau hyn – a hwnnw yw’r Leeds Tykes.

O ble daeth y Leeds Tykes? O nhw ddim rownd blynyddoedd yn ol – o nhw? Darllenwch am hanes y clwb a ffeindiwch allan o ble daethon ni i ddechre....






Bookmark or share this story with: